Yn cyflwyno Dysgu Cymunedol Cymru.........
 
       
  Nod Allweddol, Amcanion allweddol....   FFeithiau a Figurau...
  Mae Dysgu Cymunedol Cymru yn darpau...   Cysylltwch ni...
   
  Dysgu Cymunedol Cymru yw’r corff ambarél ar gyfer addysg oedolion a chymunedol, a gyflwynir ac a
gefnogir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
         
  Mae Dysgu Cymunedol Cymru yn darparu’r gefnogaeth i greu cyfleoedd dysgu sydd yn cyfoethogi ac
sydd yn hyblyg mewn cymunedau ledled Cymru.
         
  Mae gwaith Dysgu Cymunedol Cymru yn allweddol yn natblygiad yr agenda addysgol a dysgu fel y nodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ‘Y Wlad sy’n Dysgu’.
       
  Mae Dysgu Cymunedol Cymru’n gweithio mewn partneriaeth:
 

Ar lefel strategol a chenedlaethol gyda llunwyr polisi a darparwyr addysg eraill

 
Ar lefel leol gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol
         
  ‘Rydym eisiau i Gymru fod yn wlad sy’n dysgu lle mae dysgu gydol oes o ansawdd uchel yn darparu’r sgiliau y mae pobl eu hangen i ffynnu yn yr economi newydd, rhyddhau doniau, ymestyn cyfleoedd a galluogi cymunedau.’
(Y Wlad sy’n Dysgu)

  Nod allweddol:
  Nod Dysgu Cymunedol Cymru yw darparu cyfleoedd Dysgu arloesol, fforddiadwy a hygyrch i holl aelodau’n cymunedau- ar adeg, mewn man, ac ar gyflymdra a thrwy gwricwlwm sydd yn diwallu anghenion yr unigolyn a chymunedau lleol.
 
Winner of the Adult Learners' Week, Community Learning Wales Progression Award
Sam Little
         
  Amcanion allweddol:
 
    1. Datblygu gallu unigolion a grwpiau I wella ansawdd bywyd yn eu cymunedau
    2. Galluogi unigolion I gyflawni eu potensial
    3. Gwneud dysgu yn lleol ac yn hawdd cael gafael arno.
    4. Cefnogi pob unigolyn i gael yr addysg sydd yn diwallu eu hanghenion – beth bynnag ydynt.
  ..........trwy ddylanwadu a darparu cyngor ac arweiniad arbenigol I aelodau yr holl gyrff allweddol sydd yn gwneud penderfyniadau.
Cosmo Chiefo
 
Community Learning Wales, Adult Tutor of the Year
  Mae Dysgu Cymunedol Cymru yn darparu:
 
Cyfle i lawer
pwy bynnag ydynt – gofalwyr, y di-waith, pobl hˆyn, oedolion yn dysgu gyda’u teulu oedd neu bobl yn gobeithio dychwelyd i waith.
pobl sydd yn cymryd y cam cyntaf yn ôl i addysg.
trwy gyrraedd allan at ddysgwyr newydd – yn aml rhai ag ychydig o sgiliau a dim cymwysterau.
Dull o gael sgiliau
trwy ddatblygu cymuned yn seiliedig ar sgiliau
galluogi cynnydd mewn sgiliau sylfaenol
annog oedolion i ail hyfforddi
Buddsoddiad mewn cymunedau
grumuso cymunedau ac unigolion.
cefnogi a datblygu pobl lleol I ddod yn diwtoriaid lleol.
cefnogi a galluogi grwpiau I fynd i’r afael â materion cymunedol.
darparu adnoddau i adfywio cymunedau, dinasyddiaeth weithredol ac adeiladu gallu

Gwelliant mewn cyfathrebu

trwy gyfleoedd e-ddysgu.
helpu pobl i gael gafael ar, a deall gwybodaeth.
annog unigolion i ddatblygu hunan hyder a dysgu sgiliau newydd.

Agenda ar gyfer amrywiaeth diwylliannol

gweithio gyda phob gr ˆ wp ethnig
hyrwyddo dwyieithrwydd ar gyfer oedolion.

Diwylliant entrepreneuriaeth

annog entrepreneuriaeth ymysg unigolion a chymunedau.

Lleoliad yn y gymuned

darparu mynediad i adnoddau cymunedol.
defnyddio lleoliadau cymunedol neuaddau pentref, canolfannau cymuned, ysgolion.
amgylchedd groesawgar yn canolbwyntio ar oedolion
Ansawdd bywyd a lles
hyrwyddo dysgu er mwyn dysgu.
ehangu a chyfoethogi profiadau bywyd i bob oedolyn – beth bynnag fo’u hoed.
hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol yn gadarnhaol.

Hyblygrwydd ac ymatebolrwydd

rhwydweithiau a phartneriaethau lleol.
hyrwyddo cyfranogiad – i’r rhai sydd yn newydd i addysg ac mewn dulliau gwahanol I ddysgwyr cyfredol.
   
  Cysylltwch ni:
  Chairman: Mike Hughes (Swansea LEA)
  Tel: 02920 370915
  e bost: enquiries@clwales.net